Cyflawnir newidiadau cyfaint uchel i’n cronfa ddata drwy synhwyro o bell, sef rhaglen ddwys o gipio newidiadau gydag awyrluniau a dynnir gan ein Huned Hedfan a chyflenwyr allanol. Mae’r delweddau diffiniad uchel a geir drwy hyn yn cael eu troshaenu â data mapiau presennol ar sgrîn, er mwyn gwirio lle mae nodweddion wedi newid. Wedyn, gellir nodi diweddariadau gwib a’u cynnwys yn ein data.
Hefyd, mae synhwyro o bell yn galluogi mapio cywir iawn mewn ardaloedd sy’n anodd eu cyrchu, ac felly gellir casglu data yn effeithlon dros ardaloedd mawr.
Yn ogystal, mae ein 230 o syrfewyr yn casglu gwybodaeth fanwl am leoliadau gan ddefnyddio offer arbenigol ac OS Net, sef ein rhwydwaith cenedlaethol o orsafoedd System Llywio â Lloeren Fyd-eang (GNSS). Mae hyn yn sail i’r mapio mwyaf manwl ac a ddiweddarir yn fwyaf aml yn y byd.
Mae’r diweddariadau hyn i’r brif gronfa ddata yn ein galluogi i greu ystod o gynhyrchion data sy’n gyson a chyfredol ar gyfer Prydain Fawr, gan gynnwys ein map digidol mwyaf manwl, sef yr OS MasterMap gyda’i Haen Topograffi; delweddau digidol eglur iawn; modelau 3D o nodweddion tirwedd a gwedd; a rhwydweithiau ffyrdd a dŵr.
Hefyd, rydym yn archwilio ffyrdd newydd o gipio nodweddion manylach fyth yn y dirwedd, yn enwedig ar lefel y stryd, megis polion lampau a safleoedd bysiau, er mwyn cefnogi cymunedau craffach. Mae hyn yn cynnwys tirfesur gan ddefnyddio cerbydau ar y tir, defnyddio cerbydau awyr di-griw, a lloerennau ffug uchel. Yn ogystal, byddwn yn parhau i gydweithio â chyflenwyr data trydydd parti.